learncymraeg.org

Cymraeg yn y Gweithle

Mae dysgu Cymraeg yn creu cyfleoedd newydd i sefydliadau a'u staff. Mae nifer gynyddol o gwsmeriaid yn dymuno derbyn gwasanaethau yn y Gymraeg, ac mae ymchwil yn dangos bod gweithwyr gyda sgiliau dwyieithog yn fwy tebygol o ennill hyd at 8-10% yn fwy o gyflog na'u cydweithwyr di-Gymraeg.

Mae mwy a mwy o gyflogwyr yng Nghymru yn gweld y Gymraeg fel sgil hynod werthfawr ar gyfer y gweithle, yn arbennig yn y sector cyhoeddus, lle mae gofyniad statudol i ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Mae busnesau preifat hefyd yn dod i sylweddoli bod defnyddio'r Gymraeg yn rhoi mantais fasnachol wrth geisio denu cwsmeriaid newydd ac yn meithrin teyrngarwch ymhlith eu cwsmeriaid presennol.

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru wedi datblygu cyrsiau yn benodol ar gyfer sefydliadau sy'n dymuno gwella sgiliau iaith eu staff. Mae hyn yn golygu y gall staff rannu'r pleser a'r mwynhad o ddysgu gyda'u cydweithwyr.

Hyd yn oed trwy fynd ar un o'n cyrsiau byr, gall eich staff ddysgu ambell i beth syml... fel sut i ddweud bore da neu brynhawn da wrth gwsmeriaid. Hyd yn oed os nad ydynt yn rhugl, bydd eich cwsmeriaid yn gwirioneddol werthfawrogi ymdrechion eich sefydliad i ddefnyddio'r Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth am hyfforddiant y gweithle, cysylltwch รข ni neu cliciwch yma i lawrlwytho pecyn gwybodaeth.


Eich siop-un-stop ar gyfer dysgu Cymraeg yng Ngogledd Cymru
Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol...
01248 383928 neu learncymraeg@bangor.ac.uk
Llywodraeth Cynulliad CymruPrifysgol Cymru BangorCymraeg i Oedolion