learncymraeg.org

 

Croeso!

Un o amcanion Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yw cynnig pob cefnogaeth i diwtoriaid y rhanbarth. O ganlyniad, darperir rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr gan y Ganolfan i ddiwallu anghenion hyfforddi a datblygu:

Cynhadledd IATEFL 2012

Pryd?    19-23 Mawrth
Lle?    Canolfan Gynadleddau, Glasgow

  • Dros 300 o weithdai ymarferol a sesiynau trafod dan ofal arbenigwyr blaenllaw
  • Dros 15,000 o fynychwyr rhyngwladol o faes dysgu Saesneg fel ail iaith
  • Dros 70 o stondinau yn arddangos adnoddau a deunyddiau dysgu newydd
  • Cyfle i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion weld y maes mewn cyd-destun ehangach ac i gyfnewid syniadau â thiwtoriaid ail iaith eraill

        Ewch i’w gwefan i gael mwy o fanylion : www.iatefl.org

   

Bydd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn noddi nifer fechan o diwtoriaid i fynychu gan dalu am fynediad i’r gynhadledd, y llety, costau teithio a threuliau, yn unol â’r graddfeydd diweddaraf.

Cliciwch yma i gael darllen am brofiadau tiwtoriaid sy wedi mynychu'r gynhadledd yn y gorffennol.

Cysylltwch â Sian Davies erbyn 23ain o Ionawr, 2012 i wneud cais.

Cynhadledd Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru

Cynhaliwyd ein cynhadledd dros benwythnos Hydref 22-23. Cafwyd sesiynau difyr gan Nia Parry, Siân Esmor, Swyn Spencer, Ioan Talfryn, Elwyn Hughes, Ifor ap Glyn, Cyril Jones a staff y Ganolfan. Daeth dros 90 o diwtoriaid draw i'r Ramada yn Wrecsam i ddysgu, i gysmygu ac i fwynhau.

I lawrlwytho cyflwyniadau'r gynhadledd, cliciwch ar deitlau'r sesiynau isod:

Gloywi Iaith_Sian Esmor

Goreuon y Gynhadledd IATEFL_Meira Evans a Pam Evans-Hughes

Taith Iaith_Sian Davies

Dysgu trwy Lenyddiaeth_Cyril Jones

Ymateb Corfforol Cyflawn TPR_ Nia Parry

Dysgu Anffurfiol_Siwan Hywel

Codi a disgyn_Ioan Talfryn

Banc Syniadau Elwyn Hughes

 

Pwy 'di pwy (Tîm Hyfforddi y Ganolfan)

 

Haydn Hughes | Dirprwy Gyfarwyddwr | E-bost | Ffôn: 01248 383209

Prif swyddogaeth y Dirprwy Gyfarwyddwr yw arwain a rheoli rhaglen hyfforddi tiwtoriaid y Ganolfan, yn ogystal â monitro a gwella ansawdd y ddarpariaeth ar draws y rhanbarth.

 

Sian Eirian Davies | Swyddog Hyfforddiant ac Ansawdd | E-bost | Ffôn: 01248 382829

Prif gyfrifoldeb y Swyddog Hyfforddiant ac Ansawdd yw cynorthwyo'r Dirprwy Gyfarwyddwr i drefnu a darparu cynllun hyfforddi'r Ganolfan, a monitro a gwella ansawdd y ddarpariaeth.


Eich siop-un-stop ar gyfer dysgu Cymraeg yng Ngogledd Cymru
Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol...
01248 383928 neu learncymraeg@bangor.ac.uk
Llywodraeth Cynulliad CymruPrifysgol Cymru BangorCymraeg i Oedolion