Eisiau bod yn diwtor Cymraeg i Oedolion?

Dach chi'n unigolyn:

  • brwdfrydig;
  • ymroddgar;
  • cymdeithasol;
  • o ddifrif am y Gymraeg?

Os felly, gall bod yn diwtor Cymraeg i Oedolion fod yn yrfa ddelfrydol i chi.
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn chwilio am:

  • diwtoriaid profiadol a all ddysgu unrhyw lefel;
  • diwtoriaid newydd sy'n dymuno dechrau dysgu.

Byddem yn darparu hyfforddiant arbenigol ar eich cyfer i'ch paratoi'n llawn cyn eich bod yn dechrau dysgu. Byddem yn cynnig hyfforddiant gydol eich gyrfa'n ogystal er mwyn sicrhau eich datblygiad fel tiwtor.

Mae'r hyfforddiant a gynigir gennym yn rhad ac am ddim.

E-bostiwch s.davies@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth.

 

 

Eich siop-un-stop ar gyfer dysgu Cymraeg yng Ngogledd Cymru
Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol...
01248 383928 neu learncymraeg@bangor.ac.uk
Llywodraeth Cynulliad CymruPrifysgol Cymru BangorCymraeg i Oedolion